Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 7
Tachwedd 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus:
Rhun Ap Iorwerth (Ynys Môn): Pa drafodaethau sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynglŷn â hyfforddi peilotiaid Saudi Arabia yn RAF y Fali?
(5 munud)
NDM6857
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau
Sefydlog 17.3 a 17.13(ii), yn ethol Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn
aelod o’r Pwyllgor
Craffu ar Waith y Prif Weinidog.
(60 munud)
NDM6852 Lynne Neagle (Torfaen)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Cyrraedd y nod? Cyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2018.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru ar 31 Hydref 2018.
(60 munud)
NDM6848 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi casgliadau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar 'Brexit a Chydraddoldebau' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Hydref 2018.
(60 munud)
NDM6854 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Sul y Cofio eleni yn nodi canmlwyddiant Diwrnod y Cadoediad a ddiwedd y rhyfel byd cyntaf.
2. Yn croesawu ymgyrch 'Thank you 100' y Lleng Brydeinig Frenhinol, sy'n cofio'r rhai a wasanaethodd, aberthodd a newidodd ein byd rhwng 1914 a 1918.
3. Yn anrhydeddu cyfraniad y rheini sydd wedi gwasanaethu ac sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi comisiynydd y lluoedd arfog i Gymru er mwyn sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.
Cyfamod y Lluoedd Arfog (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu penodi Swyddogion Cyswllt y Lluoedd Arfog drwy Gymru a dull cydweithredol Grŵp Arbenigol y Lluoedd Arfog o fynd ati i sicrhau bod Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cael ei gynnal.
Gwelliant 2 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau Deddf peidio â gadael yr un milwr ar ôl a fyddai'n gwarantu ansawdd tai a gofal iechyd i gyn-filwyr sydd wedi gweld gwasanaeth gweithredol.
(30 munud)
NDM6853 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cymru wledig - economi i'w hyrwyddo.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Tachwedd 2018